HAGGAI 1
Cyflwyniad
1 Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, Ref dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, Ref llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:
Duw yn gorchymyn ailadeiladu'r Deml
2 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”
3 Ond yna dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
4 “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand, tra mae'r deml yma yn adfail?
5 Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!
6 Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf;
dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi;
dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni;
dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes;
mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill
yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!
7 Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.
8 ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml;
bydd hynny'n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’
—meddai'r
ARGLWYDD.
9 ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da,
ond yn cael cnydau gwael.
Roeddech chi'n ei gasglu,
ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus.
‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!
10 Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith,
a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.
11 Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad –
ar y bryniau,
ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd
a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear,
ar bobl ac anifeiliaid,
ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”
Y bobl yn ufuddhau
12 Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi'i anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.
13 Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.”
14 Dyma'r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
15 Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis. Ref
I'r pen