1 Ar ôl i Moses, gwas yr ARGLWYDD, farw, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, gwas Moses:
2 “Mae Moses fy ngwas wedi marw. Dos, a chroesi afon Iorddonen. Dw i eisiau i ti arwain y bobl yma i'r tir dw i'n ei roi i chi.
3 Fel gwnes i addo i Moses, dw i'n mynd i roi i chi bob modfedd sgwâr fyddwch chi'n cerdded arni.Croes4 Bydd eich tir yn ymestyn yr holl ffordd o'r diffeithwch yn y de i Fryniau Libanus yn y gogledd. A'r holl ffordd o afon Ewffrates yn y dwyrain (gan gynnwys gogledd Syria hefyd) Ref i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.
5 Bydda i gyda ti, fel roeddwn i gyda Moses. Fydd neb yn gallu dy stopio di tra byddi di byw. Wna i ddim dy siomi di na dy adael di.
6 Bydd yn gryf a dewr. Ti'n mynd i arwain y bobl yma i goncro'r wlad wnes i addo ei rhoi i'w hynafiaid.
7 Ond rhaid i ti fod yn gryf ac yn ddewr iawn! Gwna'n siŵr dy fod yn gwneud popeth mae'r Gyfraith roddodd Moses i ti yn ei ddweud. Paid crwydro oddi wrthi o gwbl, a byddi di'n llwyddo beth bynnag wnei di.
8 Darllen sgrôl y Gyfraith yma yn rheolaidd. Myfyria arni ddydd a nos, a'i dysgu, er mwyn i ti wneud beth mae'n ei ddweud. Dyna sut fyddi di'n llwyddo.
9 Dw i'n dweud eto, bydd yn gryf a dewr! Paid bod ag ofn na phanicio. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw, yn mynd i fod gyda ti bob cam o'r ffordd!”
Gorchymyn Josua i'r bobl
10 Felly dyma Josua yn rhoi'r gorchymyn yma i arweinwyr y llwythau:
11 “Ewch drwy'r gwersyll a dweud wrth bawb i gael eu hunain yn barod. Y diwrnod ar ôl yfory dych chi'n mynd i groesi afon Iorddonen, a dechrau concro'r tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi i chi.”
12 Yna dyma Josua yn troi at lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse, a dweud:
13 “Cofiwch beth ddwedodd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wrthoch chi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn rhoi'r tir yma, sydd i'r dwyrain o afon Iorddonen, i chi setlo i lawr arno.
14 Gall eich gwragedd a'ch plant a'ch anifeiliaid aros yma, ar y tir roddodd Moses i chi. Ond rhaid i bob dyn sy'n gallu ymladd groesi'r afon o flaen gweddill eich brodyr, yn barod i frwydro gyda nhw. Rhaid i chi aros i'w helpu nhw
15 nes bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi lle iddyn nhw setlo hefyd, a nes bydd y tir mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei roi iddyn nhw wedi'i goncro. Wedyn cewch groesi'n ôl i'r tir wnaeth Moses ei roi i chi, i'r dwyrain o afon Iorddonen.”
16 A dyma nhw'n ateb Josua: “Byddwn ni'n gwneud popeth rwyt ti'n ddweud, a mynd ble bynnag wnei di'n hanfon ni.
17 Yn union fel gwnaethon ni wrando ar Moses, byddwn ni'n gwrando arnat ti. Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti, fel roedd e gyda Moses!
18 Os bydd unrhyw un yn gwrthryfela yn dy erbyn, ac yn gwrthod gwneud beth ti'n ddweud, y gosb fydd marwolaeth. Felly, bydd yn gryf a dewr!”
Josua gafodd ei ddewis gan Dduw i arwain pobl Israel drwy’r Afon Iorddonen i goncro’r tir roedd e wedi ei addo iddyn nhw. Roedd Duw ei hun yn eu harwain ac yn rhoi llwyddiant iddyn nhw pan oedden nhw’n ufudd iddo. Ond mae un neu ddau o hanesion yn y llyfr lle roedden nhw’n anufudd ac yn gweithredu ar eu liwt eu hunain, a dyna pryd roedd pethau’n mynd o chwith. Roedd Duw wedi gorchymyn fod y paganiaid yn Canaan i gael eu difa’n llwyr am eu drygioni. Doedd e ddim am i’w bobl ddechrau ymddwyn yr un fath â nhw, ac addoli eilun-dduwiau ffals. Mae hanner cynta’r llyfr yn son am yr ymgyrchoedd milwrol, a’r ail hanner yn dweud sut roedd y tir i gael ei rannu rhwng y gwahanol lwythau (er nad oedd y tir i gyd wedi ei goncro eto). Mae llyfr Josua yn cloi gyda’r bobl yn ymrwymo i fod yn ffyddlon i Dduw.
Pwy? Pryd? Pam?
Pwy?
Mae traddodiad Iddewig yn enwi Josua ei hun fel awdur y llyfr (ar wahân i’r adran olaf sy’n disgrifio marwolaeth a chladdu Josua), ond mae’r llyfr mor hen mae’n amhosib i ni wybod yn iawn pwy oedd yr awdur. Mae’r disgrifiadau a’r wybodaeth o fewn y llyfr yn fanwl, ac mae gwaith ymchwil archeolegol wedi cadarnhau llawer o’r cynnwys.
Cafodd Josua ei eni yn yr Aifft pan oedd yr Israeliaid yn gaeth yno, ac fe ddaeth yn brif gynorthwywr Moses yn ystod yr...