1 Dyma'r ARGLWYDD yn galw Moses ac yn siarad ag e o'r Tabernacl.
2 “Dwed wrth bobl Israel: Pan mae rhywun yn dod ag offrwm i'r ARGLWYDD, dylai fod o'r gyr o wartheg neu o'r praidd o ddefaid a geifr. Ref3 “Os ydy'r offrwm sydd i'w losgi yn dod o'r gyr o wartheg, dylai fod yn anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno. Rhaid ei gyflwyno wrth y fynedfa i babell presenoldeb Duw iddo gael ei dderbyn gan yr ARGLWYDD.
4 Wedyn rhaid i'r person sy'n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail sydd i'w losgi. Bydd yr anifail yn cael ei dderbyn gan Dduw fel ffordd o wneud pethau'n iawn rhwng yr addolwr a Duw.
5 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn lladd yr anifail o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn cyflwyno'r gwaed i Dduw ac yn ei sblasio o gwmpas yr allor sydd o flaen y fynedfa i'r Tabernacl.
6 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn blingo'r anifail a'i dorri yn ddarnau.
7 Bydd yr offeiriaid yn rhoi tân ar yr allor ac yn gosod coed ar y tân.
8 Wedyn byddan nhw'n gosod y pen a'r braster a'r darnau eraill mewn trefn ar y tân.
9 Bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
10 “Os anifail o'r praidd ydy'r offrwm sydd i'w losgi, dylai fod yn hwrdd neu'n fwch gafr – anifail gwryw heb ddim byd o'i le arno.
11 Mae i gael ei ladd ar ochr ogleddol yr allor o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
12 Wedyn bydd y person sy'n ei gyflwyno yn torri'r anifail yn ddarnau. Bydd yr offeiriad yn gosod y darnau, y pen a'r braster mewn trefn ar y tân sydd ar yr allor.
13 Wedyn bydd y person sy'n cyflwyno'r anifail yn golchi'r coluddion a'r coesau ôl â dŵr. A bydd offeiriad yn llosgi'r cwbl ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
14 “Os aderyn ydy'r offrwm sy'n cael ei losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD, rhaid iddo fod yn durtur neu'n golomen Ref ifanc.
15 Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.
16 Yna bydd yr offeiriad yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, ac yn eu taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor.
17 Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
Llawlyfr ydy Lefiticus, yn dweud sut oedd yr offeiriaid i arwain y bobl i addoli Duw. Mae’n dweud sut i gyflwyno’r gwahanol offrymau, ac mae’n rhoi manylion am y Saboth (oedd i fod yn ddydd o orffwys) a’r Gwyliau crefyddol eraill. Mae Lefiticus yn pwysleisio fod Duw yn sanctaidd, ac yn rhoi cyfarwyddiadau i’w bobl i’w helpu nhw i fyw bywydau glân a sanctaidd.