Casgliad o emynau’r Iddewon ydy’r Salmau. Gall fod mai’r brenin Dafydd ydy awdur bron eu hanner nhw, ond mae rhai awduron eraill yn cael eu henwi – Solomon, Moses, Asaff, Ethan a meibion Cora. Does neb yn gwybod pwy ysgrifennodd tua un rhan o dair ohonyn nhw. Maen nhw’n dyddio o wahanol gyfnodau yn hanes Israel (o ddyddiau Moses hyd gyfnod y gaethglud ym Mabilon).
Mae rhai Salmau yn mynegi profiad unigolun, ac eraill wedi eu hysgrifennu i gynulleidfa o bobl. Mae’r mwyafrif yn emynau o fawl, eraill yn weddïau taer, ac eraill eto lle mae’r awdur fel petai’n gwneud dim ond troi at Dduw i gwyno. Mae yma wefr addoliad, llawenydd, poen, tristwch, amheuaeth – yn wir, mynegiant o bron bob emosiwn dan haul!