Roedd Seffaneia yn proffwydo rhwng tua 640 a 620 C.C., pan oedd Joseia yn frenin ar Jwda. Roedd dros hanner canrif wedi mynd heibio dan deyrnasiad un o’r brenhinoedd gwaethaf yn hanes Jwda, sef Manasse, a dwy flynedd arall dan deyrnasiad ei fab Amon. Ond yna cawn Joseia, un o frenhinoedd gorau Jwda, wnaeth bopeth o fewn ei allu i droi’r bobl yn ôl at Dduw. Plentyn wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, ac mae’n debyg fod Seffaneia yn proffwydo cyn i’w ddiwygiadau ddechrau. Mae’r proffwyd yn cyhoeddi barn Duw ar Jwda a’r gwledydd o’i chwmpas. Yna mae’n cyhoeddi barn ar ddinas Jerwsalem. Ond wedyn mae’r llyfr yn cloi gyda nodyn o obaith i’r cenhedloedd, a datganiad y bydd Jerwsalem yn dathlu. Gwelai fyd newydd lle roedd pobl yn addoli Duw.
SEFFANEIA 1
1 Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Seffaneia. Roedd Seffaneia yn fab i Cwshi, mab Gedaleia, mab Amareia, mab Heseceia. Ref Cafodd y neges pan oedd Joseia fab Amon yn frenin ar Jwda. Ref CroesDuw yn barnu
2 “Dw i am glirio popeth yn llwyr oddi ar y ddaear,”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.3 “Dw i am glirio pobl ac anifeiliaid.
Dw i am glirio adar a physgod
(yr holl ddelwau a'r bobl ddrwg).
Dw i'n mynd i gael gwared â'r ddynoliaeth
oddi ar wyneb y ddaear,”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.4 “Dw i'n mynd i daro Jerwsalem
a phawb sy'n byw yn Jwda.
Dw i am gael gwared ag addoli Baal Ref yn llwyr,
a fydd neb yn cofio'r offeiriaid ffals ac anffyddlon.
5 Dw i am gael gwared â'r rhai
sy'n addoli'r haul a'r lleuad a'r sêr o ben y toeau,
a'r rhai sy'n honni eu bod yn ffyddlon i'r
ARGLWYDDtra'n tyngu llw yn enw Milcom. Ref
6 A dw i am gael gwared â'r rhai
sydd wedi troi cefn arna i, yr
ARGLWYDD,a byth yn troi ata i am help nac arweiniad.”
ARGLWYDD!Mae dydd barn yr
ARGLWYDD yn agos.Mae'r
ARGLWYDD wedi paratoi'r aberth,ac wedi cysegru'r rhai mae'n eu gwahodd.
8 “Ar ddiwrnod yr aberth mawr,” meddai'r
ARGLWYDD,“dw i'n mynd i gosbi swyddogion a theulu'r brenin,
a phawb sy'n gwisgo fel paganiaid. Ref
9 Y diwrnod hwnnw bydda i'n cosbi pawb
sy'n neidio dros y stepen drws, Ref
ac yn llenwi palas eu meistr
gyda chyfoeth wedi'i ddwyn drwy drais a gormes.”
10 “Ar y diwrnod hwnnw hefyd,” meddai'r
ARGLWYDD,“bydd sŵn gweiddi wrth Giât y Pysgod,
a sgrechian o ran newydd y ddinas;Croes
bydd twrw mawr yn dod o'r bryniau.
11 Udwch, chi sy'n oedi yn y farchnad,
achos bydd y masnachwyr wedi mynd,
a'r rhai sy'n trin arian wedi'u taflu allan.
12 Bryd hynny, bydda i'n chwilio drwy Jerwsalem gyda lampau,
ac yn cosbi'r rhai sy'n hunanfodlon a di-hid,
sy'n meddwl, ‘Fydd yr
ARGLWYDD yn gwneud dim byd – na da na drwg.’13 Bydd eu heiddo'n cael ei ddwyn,
a'u tai yn cael eu chwalu.
Maen nhw'n adeiladu tai newydd,
ond gân nhw ddim byw ynddyn nhw.
Maen nhw'n plannu gwinllannoedd
ond gân nhw ddim yfed y gwin.Croes”
ARGLWYDD yn agos;y dydd mawr – bydd yma'n fuan!
Bydd sŵn chwerw i'w glywed y diwrnod hwnnw;
sŵn milwyr cryf yn gweiddi crio.
15 Bydd yn ddydd i Dduw fod yn ddig.
Bydd yn ddiwrnod o helynt a gofid;
yn ddiwrnod o ddifrod a dinistr.
Bydd yn ddiwrnod tywyll ofnadwy;
diwrnod o gymylau duon bygythiol.Croes
16 Bydd sŵn y corn hwrdd, Ref y bloeddio a'r brwydro
yn bygwth y trefi caerog a'r tyrau amddiffynnol.
17 “Am bod y bobl wedi digio'r
ARGLWYDDbydda i'n achosi helbul iddyn nhw!
– byddan nhw ar goll fel pobl ddall.
Bydd eu gwaed yn cael ei dywallt fel llwch,
a'u perfeddion ar wasgar fel tail.
18 Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw
ar y diwrnod pan fydd yr
ARGLWYDD yn barnu.Bydd ei ddicter fel tân yn difa'r ddaear.
Bydd dinistr llwyr a sydyn yn dod
ar bawb drwy'r byd i gyd.”