Cana

 

• Ystyr yr enw mae’n debyg ydy “Lle’r brwyn”
• Pentref yn ucheldir Galilea, i’r gorllewin o Fôr Galilea, ond dydyn ni ddim yn siŵr ble. Dydy’r pentref ddim yn bod heddiw.
• Troiodd Iesu ddŵr yn win mewn priodas ym mhentref Cana. Dyma oedd ei wyrth gyntaf.
• Mae rhai arbenigwyr yn credu mai Kefr Kenna, rhyw 4 milltir o Nasareth ar y ffordd i Tiberias ydy’r pentref.
• Mae pobl eraill yn ffafrio Khirbet Kănā, adfeilion sy tua 9 milltir i’r gogledd o Nasareth. Mae Arabiaid lleol yn dal i alw’r lle yn Cana Galilea yn eu hiaith nhw. Ond mae grŵp arall o arbenigwyr yn meddwl mai Ain Kana ydy’r safle. Mae’n agos at Nasareth.
(gweler Ioan 2:1,11; 4:46-47; 21:2)