Tarsus

 

• Dinas yn rhanbarth Cilicia, de ddwyrain Twrci heddiw.
• Roedd Tarsus yn ddinas fasnachol bwysig ac roedd prifysgol enwog yno. Roedd yn gorwedd 10 milltir i mewn i’r tir ar yr Afon Cydnus. Roedd ffordd yn mynd o Tarsus i’r gogledd ac yn arwain at Byrth Cilicia, bwlch dwfn a chul trwy fynyddoedd uchel Taurus. Roedd pobl yn gallu teithio i bob cyfeiriad o ddinas Tarsus.
• Yn amser y Rhufeiniaid mae’n debyg fod poblogaeth o tua hanner miliwn yn y ddinas.
• Roedd Paul yr apostol yn dod o ddinas Tarsus. Mae llyfr yr Actau yn dweud bod Paul yn ddinesydd Rhufeinig. Roedd hynny yn wir am lawer o bobl Tarsus.
• Roedd geifr arbennig yn cael eu magu yn ardal Tarsus, geifr oedd yn cynhyrchu gwlân oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud defnydd cilicium. Roedd cilicium yn cael ei ddefnyddio i wneud pebyll, a llenni. Yn ôl y Beibl roedd Paul yn ennill ei fywoliaeth wrth wneud pebyll.
• Yr enw modern ar y ddinas ydy Tersous. Mae bwa sy’n dyddio o’r cyfnod Rhufeinig yn sefyll yno o hyd.
(gweler Actau 9:11, 30; 11:25; 21:39; 22:3)