1 Brenhinoedd 7:1

Tra roedd y Deml wedi cymryd saith mlynedd i’w hadeiladu (1 Brenhinoedd 6:38), roedd palas y brenin wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i’w adeiladu.  Oes yna awgrym yma o Solomon yn dechrau mynd ar gyfeiliorn?  Oedd grym, statws a chyfoeth yn dechrau cymryd lle Duw?  Wrth ddarllen ei hanes, gwelwn Solomon yn adeiladu dinasoedd caerog, sefydlu byddin enfawr gyda 12,000 o geffylau a 1,400 o gerbydau rhyfel, a priodi gwragedd estron (i selio cytundebau gwleidyddol, milwrol a masnachol mae’n debyg).