Yn y gymdeithas yn Corinth roedd i wraig wisgo gorchudd ar ei phen yn rhoi awdurdod iddi – roedd yn dangos ei bod yn wraig wylaidd, doeth a chyfrifol, mewn cymdeithas lle roedd i wraig beidio gorchuddio ei gwallt yn arwydd o anfoesoldeb rhywiol a gwahoddiad i ddynion. Roedd yn gyfystyr â merch yn ein dyddiau ni yn gwisgo mewn ffordd fyddai’n cael ei ystyried yn gwbl anweddus.
Mae’r cyfeiriad at angylion naill ai yn awgrymu dangos parch yng ngwydd yr angylion (sanctaidd), neu mae’n cyfeirio at yr hyn mae Genesis 6:1-2 yn son amdano – sef y bodau nefol oedd yn ffansïo gwragedd dynol a’u cymryd i gael perthynas rywiol gyda nhw.