1Cor 11:17-34

 

Yn yr eglwys fore roedd Swper yr Arglwydd yn cael ei ddathlu fel rhan o bryd bwyd oedd yr eglwys yn ei rannu (“cariadwledd” cf.Jwdas 12). Ond yng Nghorinth roedd y bobl gyfoethog yn cyrraedd o flaen y bobl dlawd (e.e. caethweision) ac yn gloddesta a meddwi (cf. adn.33,34).
Mae Paul yn dangos fod Swper yr Arglwydd yn rhywbeth oedd yr Arglwydd yn gorchymyn i ni ei ddathlu, a bod agwedd pobl wrth gyfrannu o'r Swper yn bwysig, a hefyd perthynas y Cristnogion â'i gilydd yn y corff (adn.18,27-29).