1Cor 11:3

Mae beibl.net yn credu mai ystyr y gair Groeg kephale yn yr adnod hon ydy ‘ffynhonnell’ neu ‘darddiad’, ac mai dyna sy’n gwneud synnwyr yn y cyd-destun. Mae llawer o gyfieithiadau (ac esboniadau) yn trosi kephale fel ‘pen’, ac yn credu mai cyfeiriad sy yma at awdurdod Duw dros Grist, Crist dros ddyn, a dyn dros wraig. Mae’r paragraff sy’n dilyn yn un o’r adrannau anoddaf yn y Testament Newydd i’w gyfieithu yn synhwyrol.