1Cor 13:1-13

 

Beth bynnag ydy'r doniau sydd gan unrhyw un, mae'r cwbl yn ddiwerth os nad ydy e wedi ei wreiddio mewn cariad (cf. Ioan 3:16). Pan fydd y Meseia’n dod yn ôl bydd y doniau'n diflannu ond bydd cariad yn aros. Cariad (Groeg. ‘agape’) ydy Duw cariad hunanaberthol tuag at ddynoliaeth sydd ddim yn ei haeddu o gwbl (cf. Rhufeiniaid 5:8). (I’r Groegiaid ‘doethineb’ oedd y peth pwysica, ac i'r Rhufeiniaid ‘grym’, ond i'r Cristion ‘cariad hunanaberthol’ ydy egwyddor bwysica bywyd).