Mae Pedr yn ysgrifennu ei lythyr at Gristnogion sydd wedi eu gwasgaru drwy Asia (oherwydd erledigaeth mae’n debyg).
Mae'n eu hannog nhw i foli Duw er bod bywyd yn anodd iawn – mae’r ffaith eu bod nhw wedi eu hachub yn sicr, ac mae bendithion mawr yn dod iddyn nhw yn sgil hynny.
Mae Duw hyd yn oed yn defnyddio eu treialon nhw i buro a chryfhau eu ffydd (cf. Rhufeiniaid 5:3; Iago 1:2-4).