Mae Paul yn annog Timotheus i sefyll yn gryf yn erbyn gau athrawiaeth. Mae'n amlwg fod rhai pobl yn codi eu hunain i fod yn athrawon yn yr eglwysi, ac yn rhoi eu holl sylw i ryw ddadleuon diwerth sydd ddim yn bwysig o gwbl i'r bywyd Cristnogol ffyddlon. (A sut fywyd ydy hwnnw? – bywyd o gariad, bywyd agored, cydwybod lân ac ymddiried yn llwyr yn Iesu Grist - cf. adn.5).