Mae'n rhyfeddu at drugaredd Duw yn ei achub a'i alw i weithio iddo. Mae'n gweld ei hun fel pechadur wedi profi caredigrwydd oedd e ddim yn ei haeddu o gwbl. Mae'n annog Timotheus i ddilyn ei esiampl, o ran ffydd a ffordd o fyw. Mae’n dweud wrtho am ymladd yn gryf dros y gwirionedd.