Yma mae'n siarad am y newid yn ei gynlluniau i fynd i Corinth, ac yn esbonio mai'r rheswm pam aeth e ddim atyn nhw oedd ei fod am osgoi ‘rheoli’ eu ffydd nhw. Ond mae'n amlwg fod rhywrai wedi manteisio ar y newid cynlluniau i geisio tanseilio awdurdod Paul trwy ddweud eu bod nhw ddim yn gallu ymddiried ynddo.
Yna mae'n sôn am rywun oedd wedi cael ei ddisgyblu gan yr eglwys, ond oedd wedi edifarhau ers hynny. Mae Paul yn gofyn i Gristnogion Corinth faddau iddo bellach, a’i dderbyn yn ôl [Ddylai disgyblaeth eglwysig ddim troi’n beth deddfol a chul, ond yn ffordd i annog edifeirwch ac adferiad].