2Pedr 3:1-18

 Mae'r proffwydi a'r apostolion eraill yn dysgu'r un pethau a Pedr. Ond bydd rhywrai yn dod ac yn gwneud sbort ar y syniad o ailddyfodiad y Meseia a'r farn. Dydy'r ffaith fod yr Arglwydd ddim wedi dod hyd yn hyn ddim yn golygu ei fod yn oedi bod yn drugarog ac yn amyneddgar mae e, am ei fod eisiau i bobl droi ato a byw. Bydd yn dod rhyw ddydd, pan fydd neb yn disgwyl, fel lleidr. Bydd pethau fel y maen nhw yn dod i ben, a bydd nefoedd newydd a daear newydd (cf.Eseia 65:17; 66:22). Dylai'r ffaith mai dim ond dros dro mae pethau materol gynnon ni effeithio ar ein gwerthoedd a'n blaenoriaethau ni (cf.1 Thesaloniaid 5:6,8).
Y ffordd orau i osgoi dylanwad yr hereticiaid ydy drwy dyfu'n ysbrydol.