2Thes 2:3-4

Mae’r adnodau hyn yn awgrymu y bydd gwrthryfel yn erbyn awdurdod Duw ar ddiwedd amser (cf. Mathew 24:10-12; 1 Timotheus 4:1). Mae’r un sy’n arwain y gwrthryfel yn cael ei ddisgrifio fel ‘dyn anghyfraith’ (BCN) neu ‘ymgorfforiad o ddrygioni’ (beibl.net) a ‘mab colledigaeth’ (BCN) neu ‘un sy wedi ei gondemnio i gael ei ddinistrio’ (beibl.net). Nid cyfeiriad at Satan sy yma (gw.adn.9), ond mae yn cael ei ddisgrifio fel gelyn Duw ac un fydd yn hawlio ei fod ei hun yn ‘dduw’.