Yn y llythyr hwn at Gaius, mae Ioan yn ei ganmol am ei ffyddlondeb a'i ofal am weision Duw (sef cenhadon ac athrawon Cristnogol teithiol mae'n debyg). Yna mae'n siarad am rywun o'r enw Diotreffes oedd yn gwneud yn hollol groes i hynny, ac yn arwain yr eglwys fel unben. Roedd Diotreffes yn esiampl o sut ddylai Cristion ddim ymddwyn.