Abel

Cymeriad yn yr Hen Destament o’r cyfnod cynoesol. Ail fab Adda ac Efa. Brawd Cain. Bugail. Mae’r Beibl yn dweud ei fod yn ddyn cyfiawn a bod Duw wedi derbyn ei offrwm o oen cyntafanedig. Gwrthododd Duw aberth ei frawd Cain, a digiodd Cain wrth ei frawd. Cafodd Abel ei lofruddio gan Cain.
(gweler Genesis 4:1-24; Mathew 23:35; Luc 11:51; Hebreaid 11:4; 12:24)