Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid neu Tadau’r Genedl. Mae’n cael ei adnabod fel tad cenedl yr Iddewon. Ystyr yr enw ydy “Tad i lawer”. Mae hanes Abraham (roedd yn cael ei alw yn Abram cyn i Dduw newid ei enw) yn llyfr Genesis. Roedd Abraham yn ffermwr cyfoethog gyda llawer iawn o anifeiliaid yn Ur y Caldeaid (Irac erbyn heddiw), yn byw tua dwy fil o flynyddoedd cyn Crist. Dywedodd Duw wrtho am symud i wlad newydd, sef gwlad Canaan, gyda’i wraig Sarai (newidiwyd ei henw i Sara). Gwnaeth Duw gyfamod gydag Abraham. Ystyr Cyfamod ydy Cytundeb neu Gynghrair. Addawodd Duw y byddai Abraham yn dad i genedl fawr ac y byddai’r genedl yn cael gwlad newydd i fyw ynddi. Hefyd byddai bendith yn dod drwy’r genedl hon i’r holl fyd. Fel arwydd o’r cyfamod yma, dywedodd Duw bod pob gwryw yn y teulu i gael ei enwaedu (mae enwaedu yn golygu torri’r croen oddi ar flaen y pidyn, ac mae Iddewon hyd heddiw yn dal i wneud hyn i bob bachgen pan maen nhw’n fabis ifanc iawn). Roedd Abraham yn ffrind i Dduw ac yn ddyn llawn ffydd. Dyma rai o brif ddigwyddiadau bywyd Abraham
• Duw yn galw Abram ac yn addo bendithio ei deulu. Genesis 12:1-9
• Abram yn mynd i’r Aifft. Genesis 12:10-20
• Abram a Lot, ei nai, yn gwahanu. Genesis 13
• Melchisedec yn bendithio Abram. Genesis 14:17-24
• Duw yn addo mab i Abram ac yn sefydlu cyfamod. Genesis 15
• Geni Ismael Genesis 16
• Duw yn gorchymyn y ddefod o enwaediad fel arwydd o’r Cyfamod. Abraham a’i wraig yn cael enwau newydd. Genesis 17
• Addewid am eni Isaac Genesis 18:1-15
• Hanes dinistrio Sodom a Gomorra Genesis 18:16-19:29
• Geni Isaac Genesis 21:1-21
• Hanes Duw yn gofyn i Abraham aberthu Isaac Genesis 22
• Marw Sara Genesis 23
• Isaac yn priodi Genesis 24
• Claddu Abraham Genesis 25:7-10
Mae Iddewon hyd heddiw yn meddwl bod perthyn i Abraham yn fraint fawr, a’u bod nhw yn bobl arbennig i Dduw oherwydd addewidion Duw i Abraham ganrifoedd yn ôl. Daeth addewid Duw i Abraham yn wir – mae’r genedl Iddewig (disgynyddion Abraham) yn genedl bwysig yn hanes y byd. Cafodd y byd ei fendithio trwy’r Meseia Iesu gafodd ei eni yn Iddew.
(gweler Genesis 1:26 - 25:8-9; Mathew 1:1-2, 17; 3:9; 8:11; 22:32; Marc 12:26; Luc 1:55,73; 3:8,34; 13:16,28; 16:22-30; 19:9; 20:37; Ioan 8:33-58; Actau 3:13,25; 7:2-8,16-17,32; 13:26; Rhufeiniaid 4:1-22; 9:7; 11:1; 2 Corinthiaid 11:22; Galatiaid 3:6-29; 4:22; Hebreaid 2:16; 6:13,15; 7:1-9; 11:8-11,17; Iago 2:21,23; 1 Pedr 3:6)