Act 12:1-24

 

Ychydig ddyddiau cyn y Pasg dyma Herod Agripa yn dienyddio Iago. Roedd wedi plesio'r Iddewon yn fawr trwy wneud hynny, felly dyma fe’n carcharu Pedr hefyd. Ceisiodd wneud yn hollol siwr fod Pedr ddim yn mynd i ddianc (gw. adn.6)!
Ond roedd yr Eglwys yn gweddïo dros Pedr (adn.5), a dyma Duw yn anfon angel i'w ryddhau o garchar. Ond wedyn dydy’r Cristnogion dim yn gallu credu fod eu gweddi wedi ei hateb!
Yna mae hanes Herod Agripa yn cael ei daro'n farw gan Dduw (yn y flwyddyn 44 O.C.) am iddo dderbyn y disgrifiad ohono’i hun fel person dwyfol.