Act 14:1-28

 

Ble bynnag oedd Paul a Barnabas yn mynd i bregethu'r newyddion da am y Meseia roedd llwyddiant a gwrthwynebiad yr un pryd.
Yn Lystra, pan gafodd y dyn cloff ei iacháu, roedd y dyrfa'n meddwl fod eu duwiau paganaidd wedi dod atyn nhw yn Paul a Barnabas. Mae Paul yn dangos eu bod nhw’n anghywir, ac yn pregethu iddyn nhw am yr unig wir Dduw, yr un a greodd y byd ac sy'n cynnal y greadigaeth i gyd (cf.17:22-31; Rhufeiniaid 1:18-2:16).
Daeth Iddewon o Antiochia Pisidia ac Iconium i Lystra i achosi trafferth. Bu bron i Paul gael ei ladd. Aeth Paul a’i ffrindiau ymlaen i Derbe, ble daeth llawer iawn o bobl yn Gristnogion. Wedi hynny dyma nhw’n troi yn ôl a galw heibio'r holl drefi ble oedden nhw wedi bod yn pregethu. Roedden nhw’n annog y Cristnogion yn y trefi hynny i ddal ati, ac i ddewis arweinwyr ym mhob eglwys. Dyn ni’n gweld mor ddewr oedd Paul a’i ffrindiau yn y ffaith eu bod nhw wedi mynd yn ôl i'r trefi hyn.
Ar ôl cyrraedd yn ôl yn Antiochia maen nhw’n dweud am bopeth wnaeth Duw trwyddyn nhw.