Act 8:26-40

 Mae'r Ysbryd Glân yn arwain Philip at un o brif swyddogion teyrnas Ethiopia oedd wedi bod i Jerwsalem i addoli Duw. Roedd yn teithio yn ei gerbyd ac yn darllen y broffwydoliaeth am y gwas dioddefus yn Eseia 53. Mae Philip yn esbonio'r broffwydoliaeth iddo ac yn ei arwain i gredu'r newyddion da am Iesu. Yna mae Philip yn bedyddio’r dyn.