Act 9:1-31

 Yma mae hanes tröedigaeth ryfeddol Saul, un o elynion mawr yr Eglwys (cf. hefyd Actau 22:3-16; 26:9-19). Mae Iesu ei hun yn ymddangos iddo ac yn ei gyhuddo o'i erlid e’n bersonol. Cafodd Saul ei lorio a'i ddallu gan ogoniant Iesu Grist.
Mae Duw yn galw Ananias i fynd i osod dwylo ar Saul. Mae Duw’n dweud wrth Ananias fod Saul yn mynd i wneud gwaith pwysig iawn yn lledaenu'r Efengyl. Yna mae Saul yn mynd ati ar unwaith i bregethu'r newyddion da am Iesu yn y synagogau.
Wedyn aeth i’r ardal oedd dan lywodraeth y brenin Nabateaidd Aretas IV (sef yr Arabia Syriaidd). Mae Paul yn dweud yn ei lythyr at y Galatiaid fod tair blynedd wedi mynd heibio rhwng ei droedigaeth a’r tro cynta iddo gyfarfod yr apostolion eraill yn Jerwsalem (cf.Galatiaid 1:17-19).
Bellach mae’r erlidiwr mawr ei hun yn cael ei erlid (adn.23 25; cf.2 Corinthiaid 11:32,33).
Ar ôl i Barnabas drefnu i Paul gyfarfod Pedr a Iago (brawd Iesu) (cf.Galatiaid 1:18-19), buodd yn pregethu'r newyddion da yn Jerwsalem am bythefnos, ond yna roedd rhaid iddo ddianc oddi yno am fod yr Iddewon am ei ladd.