Act 9:2

Roedd Damascus yn ddinas bwysig yn nhalaith Syria, tua 150 milltir i’r gogledd o Jerwsalem. Roedd poblogaeth Iddewig sylweddol yno. Roedd yn ddinas allweddol, ar groesffordd fasnachol bwysig. Petai Cristnogaeth yn llwyddo yno byddai’n lledu’n hawdd iawn i rannau helaeth o’r hen fyd.