Ainon

 

• Ystyr yr enw ydy “ffynhonnau” neu “ffrydiau”.
• Dyma lle roedd Ioan Fedyddiwr yn pregethu ac yn bedyddio. Dydyn ni ddim yn gwybod ble yn union roedd hyn yn digwydd, ond mae llawer yn meddwl fod Ainon ar ochr orllewinol yr afon Iorddonen. Mae Efengyl Ioan yn dweud bod Ainon wrth ymyl Salim.
• Mae’n bosib mai Beth Shan, rhyw 8 milltir i’r de o Scythopolis ydy safle Ainon, ond dydyn ni ddim yn gwybod i sicrwydd. Mae eraill yn meddwl ei fod wrth ymyl tarddiad y Wady Far’ah, wef dyffryn agored sy’n rhedeg o fynydd Ebal i’r Iorddonen.
(gweler Ioan 3:23)