Roedd Bethel, Gilgal a Beersheba yn fannau lle byddai pobl yn mynd ar bererindod ysbrydol. Bethel am mai hi oedd un o’r ddwy ganolfan gafodd eu dewis gan Jeroboam (1 Brenhinoedd 12:26-29). Yno yr adeiladodd Abram allor gyntaf (Genesis 12:8-9), a Jacob enwodd y lle yn Bethel, sef ‘Tŷ Dduw’, ar ôl ei freuddwyd (Genesis 28:10-22) Yn Gilgal y gwersyllodd pobl Israel gyntaf ar ôl croesi’r afon Iorddonen (Josua 4:19-5:12). Yn Beersheba roedd Abraham (Genesis 21:33), Isaac (Genesis 26:23-25) a Jacob (Genesis 46:1-4) wedi cael profiadau ysbrydol dwfn.
Amos 5:5
|