Ananias

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, yn llyfr yr Actau. Dyn duwiol oedd yn dilyn Iesu. Cafodd ei anfon gan Dduw i helpu Saul o Darsus oedd newydd gael tröedigaeth ddramatig pan oedd ar ei ffordd i erlid Cristnogion yn Damascus. Roedd profiad Saul wedi ei daro yn ddall, a doedd heb fwyta am dri diwrnod. Roedd Ananias yn gwybod hanes Saul, ei fod yn erlid Cristnogion Jerwsalem, ond ufuddhaodd i Dduw a mynd i’r tŷ yn Stryd Union lle roedd Saul yn aros. Siaradodd hefo Saul, ac egluro fod Duw am ei ddefnyddio yn ei waith. Wedi i Ananias weddïo gyda Saul cafodd ei olwg yn ôl, a daeth yr Ysbryd Glân i’w fywyd. Yna cafodd ei fedyddio. Er nad ydy’r Beibl yn dweud hynny, mae’n debyg mai Ananias fedyddiodd Saul.
( gweler Actau 9:10-17; 22:12)

 

Roedd Ananias yn aelod o’r eglwys gynnar yn Jerwsalem. Saffeira oedd enw ei wraig. Roedd aelodau’r eglwys yn gofalu am ei gilydd ac am y tlodion. Roedd rhai yn gwerthu tir ac yn rhoi’r arian gwerthiant i’r apostolion tuag at y gwaith. Ceisiodd Ananias dwyllo wrth gadw peth o’i arian yn ôl iddo fo’i hun, ond cyhuddodd Pedr ef o ddweud celwydd wrth yr Ysbryd Glân ac wrth Dduw. Syrthiodd Ananias yn farw yn y fan a’r lle. Doedd Saffeira, ei wraig, ddim yn gwybod dim am hyn. Pan ofynnodd Pedr iddi am faint roedden nhw wedi gwerthu eu darn tir, dywedodd hithau hefyd gelwydd. Dywedodd Pedr wrthi fod Ananias wedi marw, a syrthiodd hithau hefyd yn farw.
(gweler Actau 5: 1-11 hefyd SAFFEIRA)