Antiochia

 

• Roedd Antiochia Syria yn ddinas enwog wrth droed mynydd Sylphus tua 15 milltir i mewn i’r tir ar yr afon Orontes (Antakya yn ne ddwyrain Twrci heddiw). Dyma brifddinas talaith Rufeinig Syria. Enw porthladd y ddinas oedd Seleucia Pieria (Selwsia).
• Cafodd y ddinas ei sefydlu tua 300 C.C. gan Seleceus 1 Nicator. Enwodd Seleceus y ddinas ar ôl ei dad Antiochus.
• Roedd poblogaeth gymysg iawn yno. Dihangodd rhai Iddewon i Antiochia yn ystod y rhyfeloedd Macabeaidd (tua 168 C.C.). Cawson nhw eu hannog i setlo yno.
• Ar ôl i Pompei oresgyn Antiochia yn 64 C.C. daeth yn ddinas rydd. Roedd yn un o ddinasoedd pwysicaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Roedd temlau ac adeiladau gwych iawn yno - theatr, baddonau cyhoeddus, basilica (llys barn) a stryd dwy filltir o hyd gyda goleuadau stryd! Roedd allor i’r duwiau Artemis ac Apollo yno.
• Roedd pobl Antiochia yn hoff iawn o chwaraeon (yn enwedig rasio cerbydau - chariots). Roedden nhw hefyd yn hoffi gamblo. Roedd nifer o glybiau nos yn y ddinas.
• Roedd teml i Daphne tua 5 milltir y tu allan i’r ddinas, mewn llwyni llawryf (laurel groves). Yn ôl y chwedl, syrthiodd y duw Apollo mewn cariad gyda Daphne, ond doedd Daphne ddim am gysgu gyda Apollo. Cafodd ei throi yn lwyn llawryf. Daeth Antiochia yn enwog am anfoesoldeb oherwydd bod defodau crefyddol temlau’r ddinas yn cynnwys elfennau rhywiol.
• Roedd pobl y ddinas yn enwog am roi llysenwau doniol ar bobl. Pobl Antiochia roiodd yr enw ‘Cristnogion’ am y tro cyntaf i ddilynwyr Iesu Grist. Daeth y ddinas yn ganolfan bwysig i’r genhadaeth Gristnogol gynnar. Eglwys Antiochia Syria oedd y cyntaf i groesawu Cristnogion oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion) i’w plith.
• Mae archeolegwyr wedi darganfod olion dros 20 o eglwysi yn dyddio o’r 4edd ganrif yno.
• Cafodd Chrysostom, un o’r tadau Cristnogol cynnar, ei eni yno (marw 407 O.C.)
• Enw modern y ddinas ydy Antakya.
(gweler Actau 6:5; 11:19-30; 12:25; 15:22-35; 18:22,23; Galatiaid 2:11-12)