Mab Herod Fawr a’i wraig Malthace.
• Clywed mai Archelaus oedd wedi cymryd lle ei dad Herod Fawr wnaeth i Joseff (tad Iesu) benderfynnu symud i Nasareth pan ddaeth y teulu bach yn ôl o’r Aifft.
• Rheolodd Archelaus dros Jwdea a Samaria am gyfnod o 10 mlynedd (4 C.C. – 6 O.C.) ond nid oedd y Rhufeiniaid yn gadael iddo ddefnyddio’r teitl “brenin” fel ei dad.
• Roedd yn ddyn creulon iawn, iawn. Aeth cynrychiolaeth o Iddewon i Rufain i ddweud y byddai’r genedl yn codi i fyny yn erbyn y Rhufeiniaid mewn chwyldro petai Archelaus yn aros yn ei swydd. Felly cafodd ei ddiswyddo a’i alltudio. Ar ôl hynny, penodwyd rhaglaw gan Ymerawdwr Rhufain i weinyddu Jwdea fel Rhanbarth Rhufeinig.
(gweler Mathew 2:22 hefyd COEDEN DEULUOL HEROD)