Babilon

 

• Mae’r Hen Destament yn cyfeirio at ddinas hynafol Babilon ar yr afon Ewffrates (tua 51 milltir i’r de o Baghdad, yn Irac heddiw). Dyma grud y ddynoliaeth, yn ôl rhai. Mae llawer yn credu mai dyma lle roedd Gardd Eden.
• Dyma brifddinas a chanolbwynt gwleidyddol a chrefyddol ymerodraeth Babilon. O’r ddinas hon tyfodd ymerodraeth a diwylliant dylanwadol. Roedd yn enwog am fywyd moethus ac am anfoesoldeb. Roedd gerddi enwog iawn ym Mabilon (Y Gerddi Crog) – un o Ryfeddodau’r Hen Fyd
• Yn yr Hen Destament mae ymerodraeth Babilon yn bygwth pobl Dduw, yn arbennig yn amser y Proffwydi. Tyfodd yr ymerodraeth yn fawr rhwng 606 a 536 C.C. Wrth i’r Babyloniaid fygwth y wlad, mae’r proffwydi (Jeremeia etc) yn dweud wrth bobl Israel fod Duw yn eu cosbi nhw am droi cefn arno. A dyma pam wnaeth Babilon lwyddo i goncro Jwda a Jerwsalem.
• Cafodd Daniel (Daniel yn ffau’r llewod!) ei gymryd i lys Nebuchadnesar brenin Babilon. Cafodd llawer iawn o bobl Israel eu gorfodi i adael eu gwlad a mynd i fyw i wlad Babilon fel alltudion rhwng 605 a 586 C.C.
• Yn llyfr Nehemeia a llyfr Esra rydyn ni’n darllen hanes y bobl yn dod yn ôl o wlad Babilon i Jerwsalem ac yn dechrau ailadeiladu’r ddinas a’r deml. Daeth y grŵp cyntaf yn ôl tua 537 C.C. a grŵp arall tua 444 C.C.
• Mae llyfr y Datguddiad yn y Testament Newydd yn sôn am “Babilon Fawr”. Mae’r enw yn dod o lyfr Daniel, pennod 3 adnod 30. Roedd awdur Datguddiad yn defnyddio’r enw i ddisgrifio Rhufain fel symbol o bawb sy’n gwrthwynebu Duw a’i bobl. Roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn erlid y Cristnogion cynnar yn greulon a didrugaredd, yn union fel roedd ymerodraeth Babilon wedi ymosod ar yr Iddewon.
(gweler Actau 7:44; Datguddiad 14:8; 16:9; 17:5; 18:2,10,21,24)