Cain

 

Cymeriad o gyfnod yr Hen Destament o’r cyfnod cynoesol. Mab hynaf Adda ac Efa, a brawd i Abel. Roedd yn ffermwr oedd yn trin y tir o ran gwaith, ac yn ddyn eiddigeddus iawn. Un diwrnod cyflwynodd y ddau frawd offrwm i Dduw. Gwrthododd Duw offrwm Cain, gan ffafrio offrwm Abel. Gwylltiodd yn fawr o achos hyn a lladd Abel. Oherwydd ei drosedd, bu’n rhaid iddo adael cartref, ac aeth i fyw i wlad Nod. Cafodd fab o’r enw Enoch.
(gweler Genesis 4:1-24; Hebreaid 11:4; 1 Ioan 3:12; Jwdas 11)