Cleopas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Un o’r ddau ddisgybl oedd yn cerdded adre o Jerwsalem i Emmaus ar Ŵyl y Pasg pan oedd Iesu wedi cael ei groeshoelio. Roedd Iesu wedi atgyfodi, ac aeth i gerdded gyda nhw, a wedyn rhannu swper yn eu cartref. Wrth i Iesu dorri’r bara, sylweddolodd Cleopas a’i ffrind mai Iesu oedd e, ac aethon nhw’n syth yn ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y disgyblion eraill fod Iesu yn fyw. Tra roedden nhw’n dweud eu stori, daeth Iesu at y cwmni o ddisgyblion, a bu’n bwyta hefo nhw.
(gweler Luc 24:18)