Roedd Paul yn y carchar, ac wedi dioddef yn aml wrth wneud y gwaith oedd Duw wedi ei roi iddo, sef rhannu’r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill. Mae e eisiau dangos holl gyfoeth yr Efengyl iddyn nhw, a deall y dirgelwch fod y Meseia’n dod i fyw ynddyn nhw trwy ffydd.
[Edrychwch ar adn.24 – mae dioddefaint y Meseia ar y groes yn gwbl ddigonol i ddelio â phechod, ond mae Paul (a Christnogion ar hyd y canrifoedd) yn cael eu herlid ac yn dioddef wrth fynd allan i rannu'r newyddion da mewn byd sydd wedi troi cefn ar Dduw].