Diarhebion 20

Cyngor doeth am sut i ymddwyn a sut i ddilyn ffordd yr ARGLWYDD.  Mae yma annogaeth i weithio’n galed a pheidio diogi (adn.11-13), i beidio talu’n ôl (adn.22) a rhybudd fod twyll masnachol yn beth ffiaidd yng ngolwg Duw (adn.10,23 – gw. hefyd 11:1 a Lefiticus 19:35).  Mae adn.27 yn pwysleisio eto fod yr ARGLWYDD yn ein nabod ni i’r dim.