Diarhebion 6

Mae’r bennod yn agor gydag annogaeth i fod yn ddoeth wrth drin arian (adn.1-5), ac i beidio bod yn ddiog (adn.6-11).  Mae’n rhybuddio wedyn fod ffyrdd drygionus yn arwain i gosb (adn.12-15), ac yn rhestru pethau mae Duw yn eu casáu (adn.16-19).  Yna mae’r bennod yn cloi gyda rhybudd arall yn erbyn meithrin perthynas odinebus gyda gwraig rhywun arall (adn.20-35).