Dorcas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd, o gyfnod yr Eglwys Fore. Ei henw Hebreig oedd Tabitha. Roedd hi’n aelod yn eglwys Joppa ac yn enwog am wneud pethau da. Pan fuodd hi farw dyma’r eglwys yn anfon dau aelod i Lyda i ofyn i Pedr ddod i Joppa. Pan gyrhaeddodd Pedr dŷ Dorcas, dilynodd esiampl Iesu Grist. Anfonodd y galarwyr allan, ac yna penlinio a gweddïo. Daeth Dorcas yn ôl yn fyw. Mae hi’n cael ei galw yn ddisgybl – peth anarferol iawn i wraig yng nghyfnod y Testament Newydd.
(gweler Actau 9:36-40 hefyd TABITHA)