Mae Paul yn dechrau ei lythyr drwy glodfori Duw am achub pobl mewn ffordd mor rhyfeddol mae'n dweud am yr holl fendithion ysbrydol sydd ar gael yn y Meseia, ac yn dangos yn glir fod y cwbl yn ganlyniad y ffaith fod Duw yn ffyddlon, a’i fod yn cyflawni ei gynllun a'i fwriadau.
Mae'n tynnu sylw at fraint ei ddarllenwyr yn cael rhan yn hyn i gyd. [Mae’n cyfeirio at y Tad (adn.3-5) y Mab (adn.7) a'r Ysbryd Glân (adn.13-14)].