Eff 4:8

Mae Salm 68:18 yn disgrifio Duw yn cael ei orseddu yn frenin yn Jerwsalem, ac yn dweud ei fod wedi derbyn rhoddion gan bobl. Ond roedd traddodiad rabinaidd yn dweud mai’r ystyr oedd fod Duw wedi ‘rhoi rhoddion i bobl’ (sef y Gyfraith). Mae’n ymddangos fod Paul yn cymhwyso’r traddodiad hwn i sôn am y Meseia yn rhannu rhoddion (neu ‘ddoniau’) yr Ysbryd.