Esau

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Patriarchiaid. Mae hefyd yn cael ei enwi yn y Testament Newydd. Mab hynaf Isaac, un o efeilliaid, brawd Jacob. Cafodd Isaac ei dwyllo i roi ei fendith i Jacob ac nid i Esau. Yn y Beibl mae Jacob yn dod i gynrychioli pawb sy’n cael eu derbyn gan Dduw, ac Esau i gynrychioli’r rhai sy’n cael eu gwrthod ganddo. Daeth disgynyddion Esau, yr Edomiaid yn elynion i Israel.
(gweler Genesis 25:21-28:8; 32:3–33:16; 35:1- 36:43; Deuteronomium 2:4-29; Jeremeia 49:8-10; Obadeia 6-21; Malachi 1:2-3; Rhufeiniaid 9:13; Hebreaid 11:20-12:16)