Mae Duw yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ynglŷn â lladd Oen y Pasg a chadw Gŵyl y Bara Croyw. Roedd gwaed yr oen i’w roi ar ochrau a top ffrâm y drws. Pan welai’r angel y gwaed byddai’n mynd heibio’r tŷ hwnnw (gw. 1 Pedr 1:18,19). Roedd ufuddhau i’r cyfarwyddiadau yma yn fynegiant o ffydd pobl Israel yn Nuw. Roedd bara heb furum yn cael ei ddefnyddio am fod burum yn symbol o bechod (gw. 1 Corinthiaid 5:6-8).
Exodus 12:1-28
|