Exodus 16:1-36

Symud ymlaen i anialwch Sin, a’r bobl yn cwyno eu bod yn llwgu ac yn hiraethu am fynd yn ôl i’r Aifft.  (Roedd Duw yn gadael i’w bobl ddioddef syched, siomedigaeth a newyn er mwyn iddyn nhw ddysgu ei drystio – gw. Deuteronomium 8:2,3 a 1 Pedr 1:6,7).

Hanes Duw yn addo ac yna’n darparu manna a soflieir i’w bobl gael bwyta.  Roedden nhw i gasglu dim ond beth oedd ei angen ar gyfer y diwrnod hwnnw, a chasglu dwywaith gymaint ar y chweched diwrnod am nad oedden nhw i fynd allan ar y dydd Saboth.  Mae rhai pobl yn anufudd, ac mae’r hyn maen nhw’n ceisio ei gadw dros nos yn magu cynhron a drewi.  Mae’r rhai sy’n mynd allan i geisio casglu peth ar y Saboth yn ffeindio fod dim yno!

(Mae 1 Corinthiaid 10:1-6 yn dangos arwyddocâd dyfnach Exodus 14-17.  Hefyd mae 2 Corinthiaid 8 yn dangos fod hanes y manna yn y bennod yma yn wers bwysig nid yn unig am ufudd-dod, ond hefyd am gyfiawnder Duw a’i awydd i weld cydraddoldeb a haelioni ymhlith ei bobl.  Cofiwn eiriau Gweddi’r Arglwydd hefyd – “Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw.” – Mathew 6:11)

Mae adn.35 yn ein hatgoffa fod Duw wedi darparu bwyd ar eu cyfer yn oruwchnaturiol ar hyd cyfnod yr anialwch.