Exodus 16:15

Mae’r manna yn dangos i ni yn glir fod pobl Israel wedi gorfod dibynnu’n llwyr ar Dduw i’w cadw’n fyw yn yr anialwch am 40 mlynedd.  Hefyd, roedd ffordd Duw o roi’r manna i’r bobl yn dangos fod trachwant a hunanoldeb yn gwbl groes i werthoedd Duw – doedd dim modd ei gadw, ac roedd yn cael ei rannu’n gwbl deg (adn.17-21).