Mae’r adnodau yma yn dangos yn glir mai Duw ddaeth a’r greadigaeth i fodolaeth. Nid damwain gosmig ddaeth â’r byd i fod – Duw gynlluniodd y cwbl, Duw luniodd y cwbl, ac roedd y gwaith gorffenedig yn plesio Duw.
Mae’n disgrifio hanes Duw yn creu y cwbl mewn chwe diwrnod:
- 1:2b-5 - golau a thywyllwch
- 1:6-8 - cromen o aer – yr atmosffer
- 1:9-13 - casglu’r dŵr at ei gilydd i greu moroedd a sychdir; yna glaswellt, planhigion a choed i dyfu.
- 1:14-19 - yr haul, y lleuad a’r sêr
- 1:20-23 - pysgod a chreaduriaid eraill yn y môr, ac adar
- 1:24-27 - anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed ar y tir sych; yna creu pobl yn wrryw a benyw.
Mae’r geiriau “dwedodd Duw” yn ymddangos 10 gwaith (gw. Salm 33:6,9 a Hebreaid 11:3). Mae’n dangos awdurdod rhyfeddol Duw. Mae Ioan 1:1-3 yn uniaethu “Gair Duw”ag ail berson y Drindod Sanctaidd ddaeth yn ddyn o gig a gwaed – sef Iesu. Mae Colosiaid 1:15-17 yn cadarnhau fod gan y Meseia le canolog yn y Creu.
Mae pobl wedi eu creu i fod yn ddelw o Dduw ei hun h.y. mae rhywbeth o nodweddion a chymeriad Duw ei hun yn cael ei adlewyrchu ynddyn nhw.