Genesis 11:1-9

Hanes Tŵr Babel – pobl yn dod at ei gilydd yn Sinar (Babilonia) ac yn benderfynol o beidio cael eu gwasgaru drwy’r byd (yn gwbl groes i fwriad Duw yn Genesis 1:28; 9:1).  Mae’n hanes sy’n son am bobl yn tynnu’n groes i ewyllys Duw, ac fel Cain (Genesis 4:17) yn ceisio adeiladu dinas iddyn nhw eu hunain.  Maen nhw’n ceisio seilio eu perthynas â’i gilydd ar sail eu syniadau a’u gweledigaeth eu hunain yn lle trystio Duw.

Mae Duw yn cymysgu eu hieithoedd fel nad ydyn nhw’n deall ei gilydd, ac mae hynny’n eu gorfodi i wasgaru.  Er gwaetha holl gynlluniau pobl, Duw sy’n teyrnasu yn y pen draw (cf. Salm 2:1-4)