Mae’n debygol mai sigwrat oedd Tŵr Babel. Mae nifer o sigwratau wedi eu darganfod gan archaeolegwyr. Roeddent yn cael eu hadeiladu fel rhan o demlau paganaidd gan y Swmeriaid, Babiloniaid, Elamitiaid, Acadiaid a’r Assyriaid. Mae’r rhai cynharaf sydd wedi eu darganfod yn dyddio yn ôl rhwng 2,000 a 3,000 o flynyddoedd C.C. Yr hynaf y gwyddom amdano ydy Sigwrat Sialk yn Kashan yn Irac.
Genesis 11:4-5
|