Genesis 11:4-9

Mae’r adnodau yma yn dangos gwrthryfel y ddynoliaeth yn erbyn bwriadau da Duw (Genesis 1:28).   Roedd y ddynoliaeth eisiau rheoli ei dyfodol a’i thynged ei hun.  Byddai gadael iddyn nhw fynd eu ffordd eu hunain yn llwyr yn arwain i ddinistr, ac felly mae Duw yn cymysgu eu hieithoedd fel bod rhaid iddyn nhw wasgaru.  Roedd Duw eisiau amrywiaeth, nid unffurfiaeth, ac am i berthynas pobl â’i gilydd fod yn seiliedig ar eu perthynas gydag o’i hun.