Genesis 4:1

Er eu bod nhw wedi eu taflu allan o’r ardd yn Eden, mae geiriau Efa yn dangos yn glir nad oedden nhw’n ystyried fod Duw wedi troi ei gefn arnyn nhw.

Mae pennod 4 yn cyflwyno’r enghraifft cyntaf o wrthdaro rhwng brodyr.  Mae’n thema sy’n codi ei phen eto – Jacob ac Esau (Genesis 25:19-34; 27:1-45) a Joseff a’i frodyr (Genesis 37:1-35).