Genesis 4:1-16

Hanes Cain ac Abel yn cyflwyno offrwm i Dduw.  Mae’r ARGLWYDD yn derbyn offrwm Abel (y bugail) ond yn gwrthod offrwm Cain (sy’n ffermio’r tir).  Mae Cain yn digio ac yn llofruddio ei frawd Abel, ac mae Duw yn ei geryddu a’i gosbi.

Roedd gan Abel ffydd yn Nuw (cf. 1 Ioan 3:12; Hebreaid 11:4).  Roedd Duw wedi dangos fod rhaid cael offrwm gwaedlyd (Genesis 3:21).  Mae’n amlwg oddi wrth adn.7 nad oedd Cain wedi gwneud y peth iawn.  Mae Duw fel petai’n cynnig cyfle arall iddo yn adn.15, ond mae adn.16 yn awgrymu’n gryf fod Cain er hynny wedi dewis troi ei gefn ar yr Arglwydd.